Newyddion | News
Agenda Mehefin ar lein a cofnodion mis Mai
Mae cofnodion mis Mai ar gael ar y dudalen Cofnodion. Ceir agenda nos Iau y 6/6/24 i'w hefyd.
Newyddion | News
Mae cofnodion mis Mai ar gael ar y dudalen Cofnodion. Ceir agenda nos Iau y 6/6/24 i'w hefyd.
Mae Openreach yn uwchraddio cysylltiadau band-eang dros y wlad i fand-eang tra-chyflym. Mae ganddom ni fel cymuned y cyfle i uwchraddio hefyd, ond, er mwyn gwneud, mae gofyn y drigolion gofrestru diddordeb hefo Openreach CYN PASG 2024. Am ragor o wybodaeth am band-eang tra-chyflym, y broses uwchraddio a sut i gofrestru eich diddordeb, darllenwch y [...]
Gweithdy Rhanddeiliaid 1 – Gwelliannau Trafnidiaeth Llanbedr
Ceir manylion am y 'Llanbedr Community Partnership' a'r 'Gigabit Vouchers' wrth glicio ar y dolenni isod. Llanbedr Fibre Community Partnership Fibre Community Partnership - Using your Gigabit Voucher
Mae agenda argyfer cyfarfod Cyngor Cymuned Llanbedr nos Iau yma - 7/3/24 - bellach ar gael yma. Mi fydd y cyfarfod yn dechrae am 7yh.
"Bore da, Blwyddyn Newydd Dda! Dwi’n cysylltu am y tro olaf am draphont Abermaw gan fod y gwaith bellach wedi’i gwblhau a’r tîm wedi dechrau cael gwared ag offer a chabanau gwaith. Diolch i bawb am eu cymorth a’u cefnogaeth dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi ein helpu i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon. [...]
Mi fydd goleuadau Nadolig Llanbedr yn ol eleni ar nos Wener yr 8fed o Ragfyr. Mae'r hwyl yn dechrae o 5yh, gyda Sion Corn yn galw mewn am 6yh a'r goleuadau ymlaen am 6.30yh. Mae croeso i fusnesau lleol gynal stondinau ar y noson. Os hoffech chi gael stondin, anfonwch ebost i llanbedrlights@gmail.com hefo manylion [...]
Dyma gofnod o gyfarfod y 29fed o Fedi gyda Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd, ynglyn a datblygiadau yn y pentref. Cofnodion Cyflwyniad o'r cyfarfod
Neges gan Trafnidiaeth i Gymru. Rhwng dydd Sadwrn y 21af o Hydref a dydd Gwener y 3dydd o Dachwedd 2023, mi fydd y rheilffordd rhwng Machynlleth ag Aberystwyth ar gau. Mae hyn er mwyn cynnal gwaith angenrheidiol ar bont y rheilffordd. Mae'r gwaith yn cael ei gwbwlhau gan Alun Griffiths Civil Engineering ar ran Cyngor [...]
Neges gan Dafydd Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd Pnawn da, Gobeithio fod y wybodaeth rydych wedi derbyn hyd yn hyn o fudd i chi. Er mwyn i ni ddeall eich barn ynglŷn a’r Enillion Cyflym hoffwn i chi gymryd rhan mewn arolwg os gwelwch yn dda. Awgrymwyd yr Enillion Cyflym gan WSP ar ran [...]