Llwybrau Llanbedr

I’ch helpu chi grwydro Llanbedr a’r ardal leol, mae grwp o gerddwyr brwdfrydig o’r Cyngor Cymuned wedi gweithio mewn partneriaeth hefo perchnogion coedwigoedd – Coed Cadw, Parc Cenedlaethol Eryri ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru – i wneud gwelliannau a mapio 4 daith benodol yn yr ardal. Mae rhywbeth at allu pawb, petai chi eisiau taith gerdded hamddenol neu yn edrych am daith fwy heriol.

Mae bwrdd gwybodaeth yn sgwar y Pentref yn dangos lleoliad y coedwigoedd a’r llwybrau, gallwch hefyd lawr lwytho mapidau a gwybodaeth yma.

  1. Hanes a Chyn hanes – Hamddenol
  2. Afonydd a Melinau – Hamddenol
  3. Capeli a Coedwigoedd – Cymedrol
  4. Coed Crafnant a Cwm Bychan – Cymedrol/Heriol

Fel rhan o’r prosiect, mae bwrdd gwybodaeth a meinciau wedi codi yn Coed Gafod y Bryn a gwelliannau wedi ei gwneud yn Coed Crafnant. Cyflawnwyd hyn trwy garedigrwydd ein noddwyr Magnox, Parc Cenedlaethol Eryri, Gwyl Gwrw Llanbedr, Habitat Group ag Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones.

Cofiwch wisgo yn briodol argyfer y teithiau a’r tywydd – mwynhewch!