Yr Ardal
Mae Pentref Llanbedr wedi leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri ar arfordir Gogledd Cymru. Mae’n ardal brydferth iawn sy’n cynnig gwledd o gyfleuon i hamddena ag ymlacio. Mae’r ddwy afon – Artro a Nantcol – yn gwneud ei estyn o Cwm Bychan a Cwm Nantcol drwy erwau o goedwigoedd cynghenid a tir amaethyddol. Daw’r afon Nantcol heibio Capel Salem, capel hanesyddol bwysig gwnaed yn enwog gan ddarlun Sydney Curnow Vosper, ‘Salem’ yn 1909, lle credir gall gweld y diafol ym mhlyg siol Sian Owen.
Mae’r ddwy afon yn cwrdd ym mmhentrefan Gwynfryn a teithio drwy’r Pentref o dan y bont gerrig nodedig i harbwr Pensarn.
Mae Llanbedr hefyd yn llawn hanes. Gwelir olion o’r oes a fu mewn meini hirion ger llwybrau’r ardal, gallech ddarganfod mwy am lwybrau ceredded yr ardal yma (LINK). Mae nifer o gaerau a tai crinion o’r oes haearn i gael yn y mynyddoedd, a carreg hynafol yn yr eglwys wedi ei naddu ar ffurf troell.
Mae’r gymuned yn ffyniannus, gyda siopau Pentref cyfleus, ysgolion Meithrin a gynradd a neuadd bentref brysur gyda llawer o grwpiau lleol yn cynnal gweithgareddau rheolaidd.