Gardd Gymunedol
Ar y dudalen yma, fydda ni yn rhannu gwybodaeth am ddatblygiad yr ardd gymunedol – Cae Deiliog.
Yn ddiwedd 2019, daeth cyfle I Gyngor Cymuned Llanbedr geisio am grant ar gyfer prosiect cymunedol i ddod a’r cyhoedd a natur ynghyd. Penderfynwyd datblygu rhan o gae chwarae Llanbedr i ddod yn ardal i fywyd gwyllt ffynnu ag i drigolion yr ardal ddod I ymlacio ag ifwynhau.
Fydd yr ardal yma yn cael ei rhannu yn dair – coedlan o goed ‘Maple’ (glas ar y map isod), Perllan o goed ffrwythau a gardd Pili-Pala (gwyrdd ar y map), a dol o flodau gwyllt (melyn ar y map). Fydd yna hefyd lwybrau a llefydd i eistedd ag i fwynhau.
Ychydig o hanes…
Yn ol y map Degwm o’r ardal, roedd Cae Deiliog yn wreiddiol yn ddwy gae ag yn ran o ddwy wahanol fferm. Y cyntaf, Cae’r March ar dir Tyddyn Pandy, a’r ail Cyfar Ganol ar dir Pen-y-Bont. Ar rannau uchaf y caeau, adeiladwyd Bryn Deiliog a gan nad oedd y rhannau isaf yn addas argyfer datblygiad o’r fath, defnyddwyd cae Clwt y Rhos yn gae pel droed a Cae Ty yn gae chwarae. Mae’r ardaloedd yma bellach I gyd o dan ofal y Cyngor Cymuned.
Cychwyn y Gwaith…
Yn nechrae 2020, aeth aelod o’r Cyngor Cymuned, Mr Goronwy Davies ati I wneud ymholiadau ynglyn a chreu gardd o flodau gwyllt I ddenu Pili Pala.
Er gwaethaf rhwystradigaeth COVID-19, cafodd y llecyn yma ei gwbwlhau erbyn diwedd y flwyddyn a bellach erbyn gwanwyn 2021, mae’n werth ei weld hefo amrywiaeth o flodau gwyllt.