Neges gan Dafydd Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd

Pnawn da,

Gobeithio fod y wybodaeth rydych wedi derbyn hyd yn hyn o fudd i chi.

Er mwyn i ni ddeall eich barn ynglŷn a’r Enillion Cyflym hoffwn i chi gymryd rhan mewn arolwg os gwelwch yn dda. Awgrymwyd yr Enillion Cyflym gan WSP ar ran y Llywodraeth sydd i’w weld yn yr adroddiad anfonwyd i chi gan Dafydd wythnos diwethaf.

Mae hyn yn rhoi cyfle i ni gasglu gwybodaeth gadarn er mwyn rhoi darlun i ni o ba enillion cyflym fyddai mwyaf gwerthfawr i chi a’r gymuned. Hefyd, byddwn yn dod i ddeall prif bryderon chi fel rhanddeiliaid a chynrychiolwyr y gymuned leol.

Dyma linc i’r arolwg: www.gwynedd.llyw.cymru/EnillionCyflymLlanbedr

Bydd yr arolwg ar agor hyd at 03/09/2023 a byddwn yn cyflwyno’r canlyniadau i chi yn y cyfarfod ym mis Medi. Sicrhewch eich bod yn clicio CYFLWYNO ar ddiwedd yr holiadur i ni gael mynediad i’ch ymateb.

Diolch yn fawr am eich cyfraniad a edrychaf ymlaen at ddeall mwy am eich barn ar y sefyllfa yn Llanbedr.

Cofion,

Dafydd Williams