I ddathlu 15 mlynedd ers i Llanbedr gael ei gefeillio gefo Huchenfeld, mae cynrychiolwyr o Huchenfeld yn ymweld a’r pentref o ddydd Iau yr 20fed o Ebrill hyd at dydd Sul y 23ydd o Ebrill.
Mi fydd y Grwp Llanbedr-Huchenfeld yn croesawu a diddanu ein ymwelwyr. Mi fyddan yn ymweld a’r ysgol Gynradd, y Victoria Inn neu Ty Mawr a’r Neuadd Bentref. Os oes ganddoch unrhyw syniadau ynglyn a datblygu ein perthynas hefo Huchenfeld neu os hoffech gymeryd rhan mewn gweithgareddau tebyg yn y dyfodol, neu efallai ymweld a Huchenfeld, cysylltwch a grwp Llanbedr-Huchenfeld drwy’r Cyngor Cymuned.