Mae SP Energy Networks yn buddsoddi £1.5 miliwn i gryfhau’r rhwydwaith trydan sy’n gwasanaethu Abermaw. Bydd y gwaith hwn yn helpu i wneud yn siŵr bod y rhwydwaith yn gallu dal ati i gefnogi cartrefi a busnesau lleol, yn ogystal â gwasanaethau hanfodol.
Fel rhan o’r buddsoddiad hwn, mae angen i ni osod pibellau trydan newydd o dan nifer o ffyrdd yn y dref. Golyga hyn y bydd modd gosod ceblau newydd, gan gryfhau’r rhwydwaith lleol, yn barod ar gyfer anghenion trydan Abermaw yn y dyfodol.
Rydym wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau cymunedol yn ddiweddar yng Nghanolfan Gymunedol Oasis, lle rhannwyd gwybodaeth am y gwaith, a chawsom ninnau gyfle i wrando ar gwestiynau a phryderon y gymuned leol. Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd ynghylch mynediad, parcio, busnesau lleol a theithio drwy’r dref. Mae’r pryderon hyn wedi helpu i siapio ein cynlluniau rheoli traffig, a byddwn yn parhau i’w hystyried wrth i ni gyflawni’r gwaith.
Beth i’w ddisgwyl
Bydd cam mwyaf arwyddocaol y gwaith yn digwydd ar Stryd y Brenin Edward, rhwng Eglwys San Tudwal a thafarn The Royal, rhwng 16 Tachwedd a 2 Rhagfyr. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd mynediad trwodd ar hyd y rhan yma o Stryd y Brenin Edward ar gau, a bydd arwyddion yn dangos llwybr gwyriad drwy Drawsfynydd.
Rydym yn sylweddoli bod hwn yn dipyn o wyriad ac yn deall y bydd yn anghyfleus. Fodd bynnag, oherwydd lled y ffordd a natur y gwaith cloddio, ni fyddai’n ddiogel i draffig gael mynediad yn ystod y gwaith. Cytunwyd ar y llwybr drwy Drawsfynydd oherwydd mai hwn yw’r unig lwybr addas sy’n gallu ymdopi â maint a math y traffig sy’n defnyddio Stryd y Brenin Edward fel rheol, gan gynnwys cerbydau nwyddau trwm (HGVs) a cherbydau mawr eraill.
Rydym wrthi’n gweithio gyda’r cyngor i drafod trefniadau parcio dros dro pan fydd Stryd y Brenin Edward ar gau. Rydym hefyd yn cydweithio â’r gwasanaethau brys i gytuno ar drefniadau priodol ar gyfer y cyfnod cau.
Ffyrdd y mae hyn yn effeithio arnynt
Byddwn yn gweithio ar nifer o ffyrdd eraill yn yr ardal hefyd, fel y dangosir isod. Rheolir y llefydd hyn drwy gau ffyrdd yn lleol a threfniadau traffig dros dro, gan sicrhau bod mynediad i gartrefi a busnesau yn parhau lle bynnag y bo modd. Mae’r dyddiadau’n rhoi syniad i chi pryd fydd hyn yn digwydd, ond gallant newid yn dibynnu ar sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen, amodau’r tywydd a gofynion gweithredol. Yr oriau gwaith arferol fydd 7am i 5pm, hyd at saith diwrnod yr wythnos.
| Ffordd | Mesurau traffig | Dyddiad dechrau | Dyddiad gorffen |
|---|---|---|---|
| Ffordd y Traeth | Cau ffyrdd yn lleol a goleuadau traffig dros dro | 16 Hydref | 18 Hydref |
| Marine Parade | Cau ffyrdd yn lleol a goleuadau traffig dros dro | 19 Hydref | 20 Tachwedd |
| Ffordd y Parc | Cau ffyrdd yn lleol a goleuadau traffig dros dro | 19 Hydref | 20 Tachwedd |
| Stryd y Brenin Edward | Ffordd wedi cau’n llwyr a gwyriad drwy Drawsfynydd | 16 Tachwedd | 2 Rhagfyr |
| Ffordd Mynach | Cau ffyrdd yn lleol a goleuadau traffig dros dro | 30 Tachwedd | 18 Rhagfyr |
Diweddariad ar drafnidiaeth i ysgol
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid yn Abermaw, gan gynnwys ysgolion lleol, y coleg, Cyngor Gwynedd, swyddogion cynllunio trafnidiaeth addysg a Lloyds Coaches, er mwyn helpu i leihau tarfu yn ystod y gwaith sydd ar ddod.
Mae SP Energy Networks wedi cytuno i gefnogi’r gwaith o ariannu gwasanaeth bysiau ychwanegol er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr barhau i deithio i’w hysgolion a’u coleg. Bydd y gwasanaeth hyn hefyd ar gael i helpu trigolion ac ymwelwyr i deithio o amgylch y llwybr dargyfeirio yn haws.
Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys amserlenni a lleoliadau arosfannau bysiau, yn cael eu cyhoeddi’n fuan ar ein gwefan.
Rydym wedi ymrwymo i helpu Abermaw i barhau’n agored i fusnes yn ystod y cyfnod y bydd y gwaith hanfodol yn cael ei wneud, ac rydym yn annog trigolion ac ymwelwyr i barhau i gefnogi siopau, busnesau ac atyniadau lleol drwy gydol y prosiect.
Ein hymrwymiad i’r gymuned
Byddwn yn ysgrifennu at drigolion yn y dyddiau nesaf i egluro’r gwaith sydd ar y gweill. Mae copi o’r llythyr wedi’i atodi i’r e-bost hwn.
Bydd diweddariadau byw, llwybrau gwyriad a chwestiynau cyffredin ar gael ar ein gwefan:
www.spenergynetworks.co.uk/
Bydd tîm ymroddedig ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth law i ymateb i ymholiadau gan y gymuned.
Drwy gydol y gwaith, byddwn yn cadw golwg ar y trefniadau rheoli traffig, yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar y prosiect ac yn ymateb yn brydlon i unrhyw bryderon a godir gan drigolion a busnesau.
Yma i helpu
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm drwy anfon neges e-bost at barmouthreinforcement@
Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r wybodaeth hon â thrigolion a rhanddeiliaid lleol eraill y gallai hyn effeithio arnynt. Rydym yn deall y bydd y gwaith yn tarfu, ac yn gwerthfawrogi amynedd y gymuned wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hanfodol hyn i rwydwaith trydan Abermaw.
Cofion cynnes
Tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Prosiect Atgyfnerthu Abermaw SP Energy Networks