Ers 5 mlynedd bellach mae Cyngor Cymuned Llanbedr wedi cyfrannu drwy y presept tuag at gynnal y pwll nofio.
Rydym wedi neilltuo £4443 at y flwyddyn 23/24
Wedi rhoi 22/23 £4314.04
Mae hi yn edrych yn dywyll iawn arnynt heb gyfraniadau Cynghorau Cymuned a sawl grant arall. Yn debygol fydd y pwll yn cau diwedd Mawrth.Mae’n rhaid i ni fel Cyngor wneud penderfyniad yn sydun, rhoi yr arian neu beidio?

Treth dalwyr Llanbedr rydym yn gofyn am eich barn! Ie neu na.
Gadewch i ni wybod drwy ebostio cyngorllanbedr@gmail.com  Bydd pob gohebiaeth yn cael ei drin yn gyfrinachol.

Dyma ddatganiad gan Harlech ag Ardudwy Hamdden;

“Gyda gofid mae Harlech ac Ardudwy Hamdden (HAL) yn gorfod cyhoeddi, oherwydd y costau ynni presennol a’r gostyngiad yn y defnydd o’r Ganolfan, fod HAL bellach yn wynebu anawsterau ariannol sylweddol ac wedi cyrraedd pwynt o argyfwng. Rydym yn drist yw cyhoeddi y bydd y pwll nofio yn cau cyn diwedd Mawrth 2023 ond bydd y Caffi a Wal Ddringo yn parhau ar agor yn y tymor byr, rydym yn hyderus i godi ychydig o arian dros yr wythnosau nesaf er mwyn i Driathlon Harlech allu digwydd ar y 26 Mawrth yn y ganolfan. Ynghlwm mae diweddariad gan y Bwrdd Cyfarwyddwyr am y sefyllfa bresennol a’r cymorth sydd ei angen i gadw’r pwll nofio ar agor am yr wythnosau nesaf ac efallai ychydig yn hirach ond hefyd i edrych ar yr opsiwn tymor hir ar gyfer yr Ased Cymunedol hwn.”

Ceir manylion pellach yn y ddatganiad i’r wasg (cywir ar y 10fed o Fawrth) yma.

NOS LUN Y 27FED O FAWRTH AM 7.30YH. MI FYDD Y CYNGOR CYMUNED YN CWRDD I DRAFOD Y MATER. OS HOFFECH GAEL DOLEN I YMUNO YN RITHIOL, CYSYLLTWCH A’R CADEIRYDD.