“Bore da, Blwyddyn Newydd Dda!
Dwi’n cysylltu am y tro olaf am draphont Abermaw gan fod y gwaith bellach wedi’i gwblhau a’r tîm wedi dechrau cael gwared ag offer a chabanau gwaith.
Diolch i bawb am eu cymorth a’u cefnogaeth dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi ein helpu i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Roedd yn grêt gweld lot ohonoch yn y digwyddiad dathlu ym mis Rhagfyr ond os gwnaethoch ei fethu mynd, mae gwybodaeth am y diwrnod a fideos o’r gwaith yma: https://www.networkrailmediacentre.co.uk/news/celebration-as-network-rail-completes-four-year-gbp-30m-restoration-of-iconic-barmouth-viaduct
Mae llythyr diolch hefyd wedi’i anfon i drigolion sydd wedi’i atodi er mwyn dangos gwerthfawrogiad eu dealltwriaeth am y gwaith. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Cofion cynnes, Tomos”