Yn dilyn penderfyniad gan gyfarfod Cyngor Llawn Cyngor Gwynedd ar 14 Mai 2026, mae Cyngor Gwynedd yn symud ymlaen i ymgynghori ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y sir, ac fel rhan o’r ymgynghoriad mae’n cynnal digwyddiadau ledled y sir i drigolion gael dweud eu dweud.
Isod mae rhestr o ddigwyddiadau a dolenni i Eventbrite lle gallwch gofrestru i fynychu.
Mae holiadur a gwybodaeth bellach ar gael yma: Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr Gwynedd
| Dyddiad ac amser | Lleoliad | Archebu lle |
| Dydd Llun, 15 Mehefin 15:00 |
Galeri Caernarfon | Archebu lle ar gyfer digwyddiad Caernarfon |
| Dydd Iau, 18 Mehefin 17:00 |
Neuadd Goffa, Criccieth | Archebu lle ar gyfer digwyddiad Cricieth |
| Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 13:45 |
Y Llyfrgell Rydd, Dolgellau | Archebu lle ar gyfer digwyddiad Dolgellau |