Fel y gwyddoch mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi dechrau ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Parc Cenedlaethol Eryri – sef Cynllun Datblygu Lleol Eryri 3. Bwriad y Cynllun yma fydd nodi beth y gellir ei adeiladu a ble. Bydd yn mynd i’r afael â’r angen a’r lleoliadau am dai, cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol, manwerthu, mannau agored a defnyddiau tir eraill am y cyfnod 2026-hyd at 2041.
Yn unol â gofynion statudol mae’n ofynnol dilyn cyfres o gamau wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Y broses o ‘Alw am Safleoedd posib’ yw un o’r camau cyntaf yn gysylltiedig â pharatoi’r Cynllun. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eisiau gwybod am safleoedd posib a allai fod yn addas i’w datblygu a’u gwarchod o fewn ardal yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Estynnir gwahoddiad i’r cyhoedd, grwpiau cymunedol, datblygwyr a thirfeddianwyr gyflwyno Safleoedd Posib i’w cynnwys yn y Cynllun.
Y Cyfnod ‘Galw am Safleoedd posib’
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn safleoedd yw 11eg o Fai 2026.
Mae posib cyflwyno tir ar gyfer ystyriaeth i’w gynnwys o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer nifer o ddefnyddiau (e.e. tai, cyflogaeth) neu mae posib cynnig tiroedd ar gyfer ystyriaeth i’w warchod rhag ei ddatblygu.
Sut i Gyflwyno ‘Safle Posib’
Y ffordd orau a mwyaf hwylus i gynnig safle yw llenwi’r ffurflen cynnig Safle Posib ar-lein
https://cynllunio.eryri.llyw.cymru/polisi/eryri-cdll3
Er mwyn cwblhau’r ffurflen, yn ogystal â rhoi sylwadau ar unrhyw Ymgynghoriad CDLl Eryri yn y dyfodol, bydd angen i chi greu cyfrif defnyddiwr drwy’r ddolen ar ein gwefan. Gellir gwneud hyn hefyd wrth ddefnyddio’r Ffurflen Cynnig Safle Ymgeisydd ar-lein. Os ydych chi’n Ymgynghorai Statudol a/neu os ydych eisioes wedi cyflwyno eich manylion cyswllt i dderbyn gwybodaeth am Gynllun Datblygu Lleol Eryri newydd, yna bydd angen i chi nodi’ch cyfeiriad e-bost sydd eisioes wedi’i gofrestru gyda’r Awdurdod a dilyn y llwybr ‘wedi anghofio fy nghyfrinair’, lle byddwch yn creu cyfrif ar ôl mewnbynnu’ch cyfrinair eich hun.
Mae’r ffurflen ar-lein yn galluogi cynigwyr safleoedd i gynhyrchu a chyflwyno map, cael gwybodaeth am gyfyngiadau, gweld y canllaw ar gyfer cyflwyno safle ac uwchlwytho dogfennau perthnasol.Os ydych yn cael anhawster gyda’r broses o gyflwyno safle ar-lein neu yn dymuno derbyn arweiniad pellach, bydd Swyddog o’r Tîm Polisi Cynllunio ar gael i roi cymorth ac eich tywys drwy’r broses. Mae manylion cyswllt y Tîm i’w weld isod
Mae copi papur o’r ffurflen ar gael yn y lleoliadau canlynol:-
yn Swyddfa’r Awdurdod ym Mhenrhyndeudraeth,
yng Nghanolfannau Croeso’r Awdurdod (yn ystod oriau agor)
Nodwch nad yw cyflwyno safle posib yn golygu ymrwymiad gan yr Awdurdod i ddwyn safleoedd ymlaen i Gynllun Datblygu Lleol Eryri.
Bydd yr holl safleoedd posib a gyflwynir yn cael eu rhoi ar gofrestr safleoedd posib. Bydd y gofrestr o safleoedd posib ar gael i’w archwilio ar wefan yr Awdurdod. Ni roddir enwau a manylion cyswllt y cynigwyr ar y gofrestr gyhoeddus.
Gweler gwybodaeth bellach a manylion am y meini prawf asesu ar gyfer ystyried y safleoedd ynghyd a nodiadau canllaw i lenwi’r ffurflen cyflwyno Safle Posib ar wefan yr Awdurdod (Galw am safleoedd posib).
Am unrhyw gymorth arall, plis cysylltwch a’r tîm polisi cynllunio ar 01766 770274 neu e-bostiwch polisi.cynllunio@eryri.llyw.