Cyngor Cymuned

Mae Cyngor Cymuned Llanbedr yn cwrdd yn fisol i drafod materion pwysig sy;n effeithio ein cymuned, gan gynnwys y neuadd bentref, cae chwarae, y fynwent, ffyrdd a llwybrau cyhoeddus, ceisiadau cynllunio ah unrhyw faterion arall sy’n codi trwy law ein cynghorwyr.

Gallwch weld agendau cyfarfodydd a chofnodion yma.

Os hoffech i’r cyngor drafod mater penodol, cysylltwch ag un o’r cynghorwyr isod.

Jane Taylor-Williams
Cadeirydd
taylorwilliams67@btinternet.com

Morfudd Lloyd
Clerc / Swyddog Cyllid
01341 241645
cyngorllanbedr@gmail.com
Tyddyn Hendre, Llanbedr, Gwynedd LL45 2PL

Eirwyn Thomas
Is-Gadeirydd
eirwyn@tyddynbach.co.uk

Kevin Titley
Cynghorydd
01341 241632
k.titley007@btinternet.com

Helen Johns
Cynghorydd
01341 241617

Luise Vassie
Cynghorydd
luise.cyngorllanbedr@gmail.com

Annwen Hughes
Cynghorydd Sir
cynghorydd.annwenhughes@gwynedd.llyw.cymru

Gwynfor Owen
Cynghorydd Sir
cynghorydd.gwynforowen@gwynedd.llyw.cymru

Gwneud cais ar-lein neu ffonio’r Clerc gan roi eich enw a’ch cyfeiriad a dweud pa wybodaeth yr hoffech ei gweld.

E-bost: cyngorllanbedr@gmail.com
Ffon: 01341 241645

  • Byddwn yn cydnabod eich cais cyn gynted ag y bo modd. Os nad ydym yn sicr pa wybodaeth yn union sydd gennych dan sylw, fe wnawn ni gysylltu efo chi i drafod eich gofynion.
  • Mae gennym hyd at 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad derbyn i ymateb. Os oes angen i ni gysylltu efo chi i gael eglurhad pellach, ni fydd yr 20 diwrnod yn cychwyn nes i ni gadarnhau yn union pa wybodaeth yr hoffech ei chael.
  • Os oes angen i ni ymestyn y cyfnod (er mwyn ystyried rhai eithriadau), fe wnawn ni roi gwybod i chi a’ch hysbysu o’r dyddiad ymateb diwygiedig.
  • Nid oes raid i ni ymateb i geisiadau niferus neu flinderus neu rai sydd y tu hwnt i’r trothwy cost (wele isod*).
  • Gallwn hefyd wrthod datgelu gwybodaeth os yw un o’r eithriadau a geir dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn berthnasol. Os ydym yn gwrthod eich cais, byddwn yn datgan pa eithriad yr ydym wedi ei ddefnyddio a phaham.
  • Os ydych yn gofyn am gael y wybodaeth mewn ffurf arbennig, neu am drefnu cyfarfod i weld y cofnodion sy’n cynnwys y wybodaeth, byddwn yn ceisio ymateb i’ch cais os yw hynny’n rhesymol ymarferol.
  • A fyddech cystal â nodi ym mha ffurf yr hoffech dderbyn y wybodaeth wrth wneud eich cais.
  • Gallwch weld unrhyw fath o wybodaeth gedwir gan y Cyngor Cymuned, er bod rhai eithriadau pan waned cais am wybodaeth o natur sensitive neu cyfrinachol.

* Mae mwyafrif y ceisiadau yn rhad ac am ddim.
Fodd bynnag, os yw’n debygol o gymryd mwy na 2.5 diwrnod i ganfod, didoli a golygu dogfennau er mwyn ymateb i’ch cais (sef cost o £450 wedi ei gyfrifo ar £25 yr awr) yna nid oes raid i ni ateb.

Mewn amgylchiadau o’r fath, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cais ac yn gofyn i chi ei addasu trwy, e.e. ofyn am lai o wybodaeth. Bwriad hyn yw ceisio dod â’ch cais o dan y trothwy cost. Os nad oes modd gwneud hyn yna mae’n bosib na fyddwn yn ateb y cais.

Os nad ydych yn fodlon gyda’r ateb yna dylech gysylltu efo’r person sydd wedi eich ateb. Bydd ef/hi yn cynnal adolygiad mewnol trwy ailystyried eich cais a naill ai’n cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol, yn ei wyrdroi neu yn ei wyrdroi’n rhannol.

Os nad ydych yn fodlon gyda’r ymateb yn dilyn hynny, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad allanol trwy gysylltu gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd un o swyddogion y Comisiynydd wedyn yn ymdrin â’r adolygiad ar eich rhan.