Croeso i Llanbedr
Pentref wedi leoli rhwng Abermawddach a Harlech yn Eryri, rhwng arfordir Bae Ceredigion a mynyddoedd y Rhinogydd, gyda mynediad i goedwigoedd ag afonydd Nantcol ag Artro.
Mae’r wefan hon wedi ei datblygu argyfer cymuned Llanbedr. Mae’r gwybodaeth yma yn cael ei reoli gan Gyngor Cymuned Llanbedr argyfer trigolion ag ymwelwyr yr ardal.
Cewch wybodaeth am
- Y Cyngor Cymuned, manylion cyswllt eich cynghorwyr, agendau a chofnodion.
- Y Neuadd Bentref, manylion am y cyfleusterau a sut i’w logi argyfer eich digwyddiad.
- Newyddion presennol
- Gwybodaeth leol a manylion am lwybrau cerdded yr ardal
Newyddion a Digwyddiadau
Cyfle i dendro am waith
Mae Cyngor Cymuned Llanbedr yn edrych am unigolion i dorri gwair gwahanol ardaloedd yn y plwyf drwy'r Gwanwyn a'r Haf yn 2025. Am ragor o wybodaeth am y gwaith sy i'w gwbwlhau, cliciwch YMA I dendro am y gwaith, cwbwlhewch y ffurflen ddigidol YMA. Gellir derbyn [...]
Holiadur Cynefin
Mae Cynefin yn eich annog i fynegi eich barn ynglyn a'r sefyllfa tai lleol. Llenwch y ffurflen gan ddefnyddio y 'QR Code' isod, neu ffoniwch 07900262451 er mwyn iddynt cael darlun llawn o’r angen am dai yn yr ardal i’w gynnwys yn yr adroddiad.
Neges gan Trafnidiaeth Cymru
"Hoffem roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein sefyllfa fflyd bresennol ar lein y Cambrian a’r cynllun dros dro yr ydym yn ei roi ar waith o ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd. Mae hyn oherwydd prinder fflyd oherwydd bod nifer o drenau yn derbyn arolygiadau cynnal [...]