Mae wedi dod at sylw y Cyngor Cymuned fod un o nodweddion canolog y pentref – y man eistedd ‘Never Cut a Friend’ – bellach wedi gweld dyddiau gwell.

Felly, yn y flwyddyn newydd, mi fydd gwaith o atgyweirio yr ardal yma yn dechrae, gyda llechan newydd yn cael ei osod yn lle’r hen un sy wedi torri a gwaith coed newydd ar y man eistedd.

Edrychwn ymlaen i weld yr ardal yma ar ei orau unwaith eto.