Yn sgil newidiadau i amserlen fis Rhagfyr (o 14), bydd mwy o wasanaethau ar gael ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

Bydd yr amserlen newydd yn cynnwys mwy o gysylltiadau â chymunedau, yn rhoi hwb i economi gyda’r nos, yn darparu mwy o gyfleoedd i deithio a mwy o gysylltiadau ledled Cymru.

Mae’r rhain yn newidiadau pellach fel rhan o datblygiadau Rwydwaith Gogledd Cymru a Metro De Cymru.

Dyma rai o’r newidiadau allweddol:

  • Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Caer a Wrecsam, gan ddyblu amlder i 2 drên yr awr.
  • Trên canol dydd newydd i bob cyfeiriad ar hyd lein Calon Cymru rhwng yr Amwythig ac Abertawe drwy Landrindod, sy’n golygu 5 trên y dydd.
  • Gwasanaeth dydd Sul newydd sbon bob awr rhwng Coryton a Phenarth (estyniad i’r gwasanaeth presennol rhwng Caerdydd a Phenarth) sy’n annog teithio ar y Sul.
  • Ar ddydd Gwener, bydd tri thrên hwyrach o Gaerdydd yn gadael ar ôl hanner nos i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, gan gynnwys cysylltiad o Fae Caerdydd.
  • Bydd y gwasanaeth dyddiol 11:23 rhwng Caerdydd a Chaergybi nawr yn galw mewn rhagor o orsafoedd – Craven Arms (12:59) a Church Stretton (13:07).
  • O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, bydd gwasanaeth newydd yn gadael am 05:54 o Bidston i Wrecsam Cyffredinol ac am 20:51 o Wrecsam Canolog i Bidston
  • O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, bydd amser y gwasanaeth 07:40 presennol o Gaerdydd i Aberdaugleddau yn newid i 07:21, fel bod gwasanaeth mwy rheolaidd i Abertawe ar gyfer y rheini sy’n teithio yn ystod oriau brig.
  • O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, bydd y gwasanaethau presennol rhwng Caerdydd a Chaerloyw am 14:10, a Chaerloyw a Chaerdydd am 15:49, bellach yn ymestyn yn ôl ac ymlaen o Sba Cheltenham.
  • O ddydd Llun i ddydd Sadwrn bydd gwasanaeth newydd yn gadael am 05:37 o Ben-y-bont ar Ogwr i Gaerdydd gan alw ym mhob gorsaf ac yn ymestyn i Lynebwy.  Bydd y gwasanaeth yn cefnogi’r rheini sy’n teithio i’r gwaith yn gynnar.
  • Ar ddydd Sadwrn, bydd gwasanaeth hwyr newydd yn gadael am 23:23 o Gaerdydd i Henffordd a bydd y trên presennol am 22:15 o Gaerdydd i Henffordd yn cael ei ymestyn i’r Amwythig.
  • Ni fydd unrhyw newid yn cael ei wneud i’r gwasanaethau am 20:26 rhwng Pwllheli a Machynlleth, a’r gwasanaeth 21:47 rhwng Machynlleth a Phwllheli ar hyd

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad:

“Mae’r newidiadau hyn i’r amserlen yn gam arall ymlaen yn ein hymdrechion i gynnig gwasanaeth rheilffyrdd mwy rheolaidd, dibynadwy a chyfeillgar i gwsmeriaid ledled Cymru a’r Gororau.

“Trwy ychwanegu gwasanaethau newydd a newid rhai presennol, rydym yn cynyddu cysylltiad mewn ardaloedd allweddol fel Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn bodloni’r galw cynyddol sydd am y gwasanaethau ac yn defnyddio ein fflyd o drenau mewn ffordd fwy strategol.

“Boed yn wasanaeth newydd bob awr rhwng Caer a Wrecsam, y gwasanaethau ar hyd lein Calon Cymru wedi’i diweddaru neu wasanaethau hwyrach i’r Cymoedd, mae’r diweddariadau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad”.

I gael manylion llawn ac i gynllunio’ch taith, cofiwch wirio cyn teithio yma www.trc.cymru a gwirio manylion teithiau ar ôl 14 Rhagfyr.

Darllen mwy yma.