Annwyl bawb,
Rydych chi’n derbyn y gwahoddiad hwn gan fod eich manylion cyswllt wedi’u rhestru ar restr bostio WelTAG Llanbedr, ond mae croeso i chi ei rannu gydag unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn mynychu.
Rydym yn cynnal Digwyddiad Adborth: Gwelliannau Trafnidiaeth Llanbedr yn Neuadd Gymunedol Llanbedr ddydd Mercher 12 Tachwedd, i gyflwyno canfyddiadau astudiaeth Cam 2 WelTAG. Bydd y sesiwn yn rhedeg fel a ganlyn:
- 2:00pm – 3:00pm: Bydd y tîm ar gael ar gyfer trafodaethau galw heibio anffurfiol i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
 - 3:00pm – 3:30pm: rhoddir cyflwyniad yn amlinellu adroddiad Cam 2 WelTAG (ar gael yma), y broses a gynhaliwyd, a’r canfyddiadau allweddol.
 - 4:00pm – 5:00pm: Bydd y tîm ar gael ar gyfer trafodaethau galw heibio anffurfiol i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
 
Os hoffech fynychu’r cyflwyniad, rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel y gallwn gynllunio yn unol â hynny a threfnu unrhyw gymorth cyfieithu neu hygyrchedd sydd ei angen arnoch. Nid oes angen RSVP ar gyfer y rhan ‘galw heibio’, ond os oes gennych gwestiynau penodol neu anghenion mynediad, neu os hoffech wybod pwy fydd ar gael i siarad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Rydym yn eich annog i rannu’r gwahoddiad hwn gydag eraill a allai fod â diddordeb a bydd y sesiwn hefyd yn cael ei hyrwyddo trwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn y digwyddiad, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r cyfeiriad e-bost hwn (LlanbedrWelTAG@wsp.com).
Cofion cynnes,
Tîm Prosiect WelTAG Llanbedr