Mae Opus Utility Solutions yn gweithio ar brosiect SPEN yn ardal Minffordd. Maen nhw wedi bod yn paratoi ar gyfer goleuadau pedair ffordd ar y cylchfan ym Minffordd ers nifer o wythnosau. Yn anffodus, dyma un o’r adrannau mwyaf anodd oherwydd ei leoliad.
O’r noson yma (nos Fercher y 2ail o Orffennaf) bydd gwaith ar y ffordd yn cael ei gyflawni ar sifftiau dwbl gyda thîm arall yn gweithio o 19:00 – 00:00 yn yr ardaloedd nad oes trigolion ynddynt er mwyn gallu symud heibio’r adran anodd hon.
Codwyd y goleuadau ddoe (dydd Mawrth y 1af o Orffennaf) ac o hyn ymlaen bydd goleuadau yn cael eu staffio rhwng 07:00 – 19:00 gan ganiatáu rheolaeth â llaw i unrhyw gyfeiriad os bydd tagfeydd yn dechrau ffurfio.
Nod Opus yw tynnu’r goleuadau pedair ffordd i lawr ar ôl yr wythnos gyntaf, gan adael goleuadau dwy ffordd yn arwain i lawr i Benrhyndeudraeth tan 18 Gorffennaf. Dyma fydd cyfnod gwahardd haf lle byddwn yn symud i gau’r ffordd ar yr A496.