“Hoffem roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein sefyllfa fflyd bresennol ar lein y Cambrian a’r cynllun dros dro yr ydym yn ei roi ar waith o ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd.
Mae hyn oherwydd prinder fflyd oherwydd bod nifer o drenau yn derbyn arolygiadau cynnal a chadw trwm a gwaith trwsio sy’n gysylltiedig â’r hydref.
Oherwydd bod lein y Cambrian yn defnyddio system signalau unigryw ERTMS (System Reoli Traffig Rheilffyrdd Ewrop), rydym wedi’n cyfyngu i allu defnyddio’r fflyd Dosbarth 158 arni yn unig, felly nid ydym mewn sefyllfa i ddefnyddio unrhyw un o’n fflydoedd eraill ar y lein i wneud iawn am y diffyg.
Oherwydd hynny, rydym yn rhoi cynllun dros dro ar waith i ddarparu gwasanaethau gyda mwy o gysondeb ac eglurder i gwsmeriaid.
O ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd, bydd yr holl wasanaethau rhwng Amwythig a Birmingham International yn terfynu yn Wolverhampton ac yn troi’n ôl oddi yno. Bydd hyn yn ein galluogi i redeg gwasanaeth cyson i gwsmeriaid wrth i ni weithio trwy rai o broblemau’r fflyd a dychwelyd i sefyllfa gryfach. Mae hyn hefyd yn diogelu rhai o’r gwasanaethau hanfodol yng nghefn gwlad canolbarth a gogledd Cymru.
Rydym hefyd yn edrych ar gynllun i gyflwyno’r trenau Dosbarth 197s newydd i wasanaethu teithwyr rhwng Amwythig a Birmingham yn gynharach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol ac rydym yn gobeithio rhannu diweddariad pellach ar hyn yn fuan.
I gwsmeriaid sy’n teithio tuag at Birmingham New Street a Birmingham International, derbynnir eu tocynnau ar wasanaethau Avanti a West Midlands Railway.
Bydd y cynllun ar waith tan o leiaf ddydd Gwener, 22 Tachwedd.
Hoffem ymddiheuro am yr anghyfleustra a achosir a rhoi sicrwydd i chi ein bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl yn cael ei achosi i gwsmeriaid.”