Neuadd Y Pentref

Adnewyddwyd Neuadd Y Pentref yn 2017 i greu adeilad fodern, hyblyg a hygyrch i ddefnydd y gymuned oll. Mae WiFi a chysylltiad wifren i’r we ar gael ym mhob ystafell.

Mae tair ystafell ar gael: Rhinog Fawr, Rhinog Fach a Moelfreyn o gystal a cegin, toiledau hygyrch a digoonedd o le parcio.

Mae rhest brisiau a gwybodaeth am logi’r neuadd ar gael isod.

Os hoffech wybod rhagor am gefndir y neuadd, lawrlwythwch y ddogfen yma.

Rhinog Fawr (7.7 x 8.3m)

Ystafell ddigwyddiadau fawr sy’n cynnwys y ddefnydd o fyrddau a chadeiriau, sgrin fawr, taflunydd a chysylltiad argyfer liniadur.

Rhinog Fach (3.5 x 8.3m)

Yn cael ei ddefnyddio gan Cylch Meithrin Llanbedr, gall ei ddefnyddio ar y cyd hefo Rhinog Fawr (rhaid trefnu o flaen llaw). Yn cynnwys teledu a chysylltiad gliniadur.

Moelfre (3.0 x 6.0m)

Ystafell gyfarfodydd neu swyddfa hefo desgiau a chadeiriau.

Cyflwysterau Eraill

Cegin : Gyda oergell, popty, peiriant golchi llestri, ystên ddŵr poeth, llestri ayyb.

Toiledau: Hygyrch a cyfleusterau newid babi.

Maes Parcio: Maes Parcio digonnol.

Rhestr Brisiau

Mudiadau a Gweithgareddau Cymdeithasol
Dwy Awr Dwy Awr(Reolaidd) Pedair Awr Pedair Awr(Reolaidd)
Rhinog Fawr

Yn cynnwys defnydd o’r gegin, teledu/taflunydd a chysylltiad we.

£12.00 £10.00 £20.00 £15.00
Moelfre

Yn cynnwys defnydd o’r gegin, teledu a chysylltiad we.

£10.00 £8.00 £15.00 £12.00
Masnachol/Personol
Dwy Awr Pedair Awr
Rhinog Fawr

Yn cynnwys defnydd o’r gegin, teledu/taflunydd a chysylltiad we.

£15.00. £25.00
Moelfre

Yn cynnwys defnydd o’r gegin, teledu a chysylltiad we.

£15.00 £25.00

Llogi’r Neuadd

Cysylltwch a Canolfan Cymdeithasol Llanbedr i logi’r neuadd

Ebost: neuadd.llanbedr@outlook.com

I logi dros y ffon neu o soes ganddoch ragor o ymholiadau, cysylltwch a:

Cadeirydd:
Eirwyn Thomas 01341 241301 / 07966 796451

Trysorydd:
Iolyn Jones 01341 241391 / 07767445503