{"id":3275,"date":"2026-11-02T19:12:07","date_gmt":"2026-11-02T19:12:07","guid":{"rendered":"https:\/\/llanbedr.com\/?p=3275"},"modified":"2026-11-02T19:13:04","modified_gmt":"2026-11-02T19:13:04","slug":"gwelliannau-sydd-ar-y-gweill-ir-rhwydwaith-trydan-yn-abermaw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/llanbedr.com\/cy\/gwelliannau-sydd-ar-y-gweill-ir-rhwydwaith-trydan-yn-abermaw\/","title":{"rendered":"Gwelliannau sydd ar y gweill i\u2019r rhwydwaith trydan yn Abermaw"},"content":{"rendered":"<p>Mae SP Energy Networks yn buddsoddi \u00a31.5 miliwn i gryfhau\u2019r rhwydwaith trydan sy&#8217;n gwasanaethu Abermaw. Bydd y gwaith hwn yn helpu i wneud yn si\u0175r bod y rhwydwaith yn gallu dal ati i gefnogi cartrefi a busnesau lleol, yn ogystal \u00e2 gwasanaethau hanfodol.<\/p>\n<p>Fel rhan o&#8217;r buddsoddiad hwn, mae angen i ni osod pibellau trydan newydd o dan nifer o ffyrdd yn y dref. Golyga hyn y bydd modd gosod ceblau newydd, gan gryfhau&#8217;r rhwydwaith lleol, yn barod ar gyfer anghenion trydan Abermaw yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Rydym wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau cymunedol yn ddiweddar yng Nghanolfan Gymunedol Oasis, lle rhannwyd gwybodaeth am y gwaith, a chawsom ninnau gyfle i wrando ar gwestiynau a phryderon y gymuned leol. Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd ynghylch mynediad, parcio, busnesau lleol a theithio drwy&#8217;r dref. Mae&#8217;r pryderon hyn wedi helpu i siapio ein cynlluniau rheoli traffig, a byddwn yn parhau i\u2019w hystyried wrth i ni gyflawni&#8217;r gwaith.<\/p>\n<p><strong>Beth i\u2019w ddisgwyl<\/strong><\/p>\n<p>Bydd cam mwyaf arwyddocaol y gwaith yn digwydd ar Stryd y Brenin Edward, rhwng Eglwys San Tudwal a thafarn The Royal, rhwng 16 Tachwedd a 2 Rhagfyr. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd mynediad trwodd ar hyd y rhan yma o Stryd y Brenin Edward ar gau, a bydd arwyddion yn dangos llwybr gwyriad drwy Drawsfynydd.<\/p>\n<p>Rydym yn sylweddoli bod hwn yn dipyn o wyriad ac yn deall y bydd yn anghyfleus. Fodd bynnag, oherwydd lled y ffordd a natur y gwaith cloddio, ni fyddai&#8217;n ddiogel i draffig gael mynediad yn ystod y gwaith. Cytunwyd ar y llwybr drwy Drawsfynydd oherwydd mai hwn yw&#8217;r unig lwybr addas sy&#8217;n gallu ymdopi \u00e2 maint a math y traffig sy&#8217;n defnyddio Stryd y Brenin Edward fel rheol, gan gynnwys cerbydau nwyddau trwm (HGVs) a cherbydau mawr eraill.<\/p>\n<p>Rydym wrthi&#8217;n gweithio gyda&#8217;r cyngor i drafod trefniadau parcio dros dro pan fydd Stryd y Brenin Edward ar gau. Rydym hefyd yn cydweithio \u00e2&#8217;r gwasanaethau brys i gytuno ar drefniadau priodol ar gyfer y cyfnod cau.<\/p>\n<p><strong>Ffyrdd y mae hyn yn effeithio arnynt<\/strong><\/p>\n<p>Byddwn yn gweithio ar nifer o ffyrdd eraill yn yr ardal hefyd, fel y dangosir isod. Rheolir y llefydd hyn drwy gau ffyrdd yn lleol a threfniadau traffig dros dro, gan sicrhau bod mynediad i gartrefi a busnesau yn parhau lle bynnag y bo modd. Mae&#8217;r dyddiadau\u2019n rhoi syniad i chi pryd fydd hyn yn digwydd, ond gallant newid yn dibynnu ar sut mae\u2019r gwaith yn mynd yn ei flaen, amodau&#8217;r tywydd a gofynion gweithredol. Yr oriau gwaith arferol fydd 7am i 5pm, hyd at saith diwrnod yr wythnos.<\/p>\n<table border=\"1\" cellspacing=\"0\" cellpadding=\"6\">\n<tbody>\n<tr>\n<th>Ffordd<\/th>\n<th>Mesurau traffig<\/th>\n<th>Dyddiad dechrau<\/th>\n<th>Dyddiad gorffen<\/th>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>Ffordd y Traeth<\/td>\n<td>Cau ffyrdd yn lleol a goleuadau traffig dros dro<\/td>\n<td>16 Hydref<\/td>\n<td>18 Hydref<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>Marine Parade<\/td>\n<td>Cau ffyrdd yn lleol a goleuadau traffig dros dro<\/td>\n<td>19 Hydref<\/td>\n<td>20 Tachwedd<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>Ffordd y Parc<\/td>\n<td>Cau ffyrdd yn lleol a goleuadau traffig dros dro<\/td>\n<td>19 Hydref<\/td>\n<td>20 Tachwedd<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>Stryd y Brenin Edward<\/td>\n<td>Ffordd wedi cau&#8217;n llwyr a gwyriad drwy Drawsfynydd<\/td>\n<td>16 Tachwedd<\/td>\n<td>2 Rhagfyr<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>Ffordd Mynach<\/td>\n<td>Cau ffyrdd yn lleol a goleuadau traffig dros dro<\/td>\n<td>30 Tachwedd<\/td>\n<td>18 Rhagfyr<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Diweddariad ar drafnidiaeth i ysgol<\/strong><\/p>\n<p>Rydym wedi bod yn gweithio\u2019n agos gyda rhanddeiliaid yn Abermaw, gan gynnwys ysgolion lleol, y coleg, Cyngor Gwynedd, swyddogion cynllunio trafnidiaeth addysg a Lloyds Coaches, er mwyn helpu i leihau tarfu yn ystod y gwaith sydd ar ddod.<\/p>\n<p>Mae SP Energy Networks wedi cytuno i gefnogi\u2019r gwaith o ariannu gwasanaeth bysiau ychwanegol er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr barhau i deithio i&#8217;w hysgolion a\u2019u coleg. Bydd y gwasanaeth hyn hefyd ar gael i helpu trigolion ac ymwelwyr i deithio o amgylch y llwybr dargyfeirio yn haws.<\/p>\n<p>Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys amserlenni a lleoliadau arosfannau bysiau, yn cael eu cyhoeddi\u2019n fuan ar ein gwefan.<\/p>\n<p>Rydym wedi ymrwymo i helpu Abermaw i barhau\u2019n agored i fusnes yn ystod y cyfnod y bydd y gwaith hanfodol yn cael ei wneud, ac rydym yn annog trigolion ac ymwelwyr i barhau i gefnogi siopau, busnesau ac atyniadau lleol drwy gydol y prosiect.<\/p>\n<p><strong>Ein hymrwymiad i\u2019r gymuned<\/strong><\/p>\n<p>Byddwn yn ysgrifennu at drigolion yn y dyddiau nesaf i egluro&#8217;r gwaith sydd ar y gweill. Mae copi o&#8217;r llythyr wedi&#8217;i atodi i\u2019r e-bost hwn.<\/p>\n<p>Bydd diweddariadau byw, llwybrau gwyriad a chwestiynau cyffredin ar gael ar ein gwefan:<br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.spenergynetworks.co.uk\/barmouth_reinforcement\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\" data-saferedirecturl=\"https:\/\/www.google.com\/url?q=http:\/\/www.spenergynetworks.co.uk\/barmouth_reinforcement&amp;source=gmail&amp;ust=1793732007612000&amp;usg=AOvVaw2vQ__YsbmVemp006obkD3h\">www.spenergynetworks.co.uk\/<wbr \/>barmouth_reinforcement<\/a><\/p>\n<p>Bydd t\u00eem ymroddedig ar gyfer ymgysylltu \u00e2 rhanddeiliaid wrth law i ymateb i ymholiadau gan y gymuned.<\/p>\n<p>Drwy gydol y gwaith, byddwn yn cadw golwg ar y trefniadau rheoli traffig, yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar y prosiect ac yn ymateb yn brydlon i unrhyw bryderon a godir gan drigolion a busnesau.<\/p>\n<p><strong>Yma i helpu<\/strong><\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2\u2019n t\u00eem drwy anfon neges e-bost at <a href=\"mailto:barmouthreinforcement@spenenquiries.co.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">barmouthreinforcement@<wbr \/>spenenquiries.co.uk<\/a> neu ffonio 0800 024 1439.<\/p>\n<p>Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu&#8217;r wybodaeth hon \u00e2 thrigolion a rhanddeiliaid lleol eraill y gallai hyn effeithio arnynt. Rydym yn deall y bydd y gwaith yn tarfu, ac yn gwerthfawrogi amynedd y gymuned wrth i ni gwblhau&#8217;r gwelliannau hanfodol hyn i rwydwaith trydan Abermaw.<\/p>\n<p>Cofion cynnes<\/p>\n<p><strong>T\u00eem Ymgysylltu \u00e2 Rhanddeiliaid<\/strong><br \/>\n<strong>Prosiect Atgyfnerthu Abermaw SP Energy Networks<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae SP Energy Networks yn buddsoddi \u00a31.5 miliwn i gryfhau\u2019r rhwydwaith trydan sy&#8217;n gwasanaethu Abermaw. Bydd y gwaith hwn yn helpu i wneud yn si\u0175r bod y rhwydwaith yn gallu dal ati i gefnogi cartrefi a busnesau lleol, yn ogystal \u00e2 gwasanaethau hanfodol. Fel rhan o&#8217;r buddsoddiad hwn, mae angen i ni osod pibellau trydan  [&#8230;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[47],"tags":[],"class_list":["post-3275","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llanbedr.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3275","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/llanbedr.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/llanbedr.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanbedr.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanbedr.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3275"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/llanbedr.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3275\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3276,"href":"https:\/\/llanbedr.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3275\/revisions\/3276"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llanbedr.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3275"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/llanbedr.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3275"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/llanbedr.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3275"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}